Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Digidol a Democratiaeth yng Nghymru – Sesiwn 2: Rhannu Data a Menywod Mudol sy’n Adrodd am Achosion o Gam-drin Domestig

 

9 Rhagfyr 2022, 12.00-13.15

 

Siaradwyr

Sarah Murphy AS (Cadeirydd)

Wanjiku Ngotho-Mbugua (BAWSO)

Joanne Hopkins (Iechyd Cyhoeddus Lloegr)

Jane Hutt AS (Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol)

 

 

- Cyflwynwyd y sesiwn hon gan Sarah Murphy AS, yr Aelod sy’n cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Deilliodd y sesiwn hon o ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol – pwyllgor y mae’r Cadeirydd yn aelod ohono.

 

- Yn sgil salwch, cafwyd ymddiheuriadau gan Elizabeth Jimenez o Wasanaeth Hawliau Menywod America Ladin. Gwnaeth Elizabeth gyfraniad sylweddol at yr ymchwiliad a grybwyllwyd uchod.

 

- Cafwyd cyflwyniadau gan Wanjiku Ngotho-Mbugua o BAWSO a Joanne Hopkins o Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac roedd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn gwneud sylwadau.

 

Yr ymchwiliad ac ymweliad BAWSO

- Rhoddodd Sarah Murphy rywfaint o wybodaeth gefndir ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i drais ar sail rhywedd, ac yn benodol, anghenion menywod mudol.

 

- Cynhaliodd y Pwyllgor ymweliad â BAWSO yn Abertawe. Roedd yr ymweliad personol hwnnw yn ddefnyddiol, gan ei fod wedi caniatáu i’r Aelodau ddysgu pethau na fyddent wedi dod ar eu traws y tu allan i'r lleoliad hwnnw, yn ôl Ms Murphy.

 

- Yn ystod yr ymweliad, clywodd yr Aelodau fod menywod mudol, pan fyddant yn profi cam-drin domestig a thrais, yn cael eu cynghori gan gwnsler i adrodd am yr achosion hyn i'r heddlu, fel y mae eraill yn ei wneud. Yna, gofynnodd Ms Murphy a oedd y wybodaeth honno'n cael ei rhoi i'r Swyddfa Gartref yn dilyn hynny. Yr ateb oedd efallai bod hynny’n digwydd, er ei bod yn anodd profi hynny, ac efallai nad yw’n digwydd. Mae camdrinwyr yn gallu defnyddio’r ffaith y gallai hyn ddigwydd i fygwth menywod sydd â’r potensial i gael eu halltudio os ydynt yn mynd at yr heddlu. Mae tawelu menywod yn rhan o’r broses o’u cam-drin.

 

- Roedd Ms Jiminez yn rhan o’r glymblaid fudol Camu Ymlaen. Er nad oedd hi’n bresennol yn y cyfarfod, roedd hi wedi hysbysu'r grŵp am achos diweddar o fenyw a oedd yn destun achos risg uchel mewn perthynas â cham-drin domestig a stelcian. Gan nad oedd ganddi ddogfennaeth, roedd hi ofn defnyddio’r gwasanaethau dan sylw. Ar ôl gwerthuso ei hachos, argymhellodd gweithiwr achos ei bod yn adrodd am yr achos i'r heddlu oherwydd y risg uchel a oedd ynghlwm wrth y sefyllfa. Ar ôl iddi adrodd amdano, cafodd lythyr rheolaeth fewnfudo. Daeth yr heddlu i’w thŷ hefyd fel rhan o’r broses adrodd. Fodd bynnag, wrth iddynt sylweddoli nad oedd ganddi ddogfennaeth, ffoniodd yr heddlu yr awdurdod gorfodi mewnfudo o’i blaen.

 

- Dywedodd Amanda Blakeman, y Dirprwy Brif Gwnstabl, wrth y grŵp nad oes dyletswydd gyfreithiol i rannu gwybodaeth. Pe bai gwasanaethau mewnfudo yn rhwystr i ymgysylltu â'r dioddefwr, ni fyddai’r heddlu'n debygol o rannu achosion lle rhennir data. Dywedwyd mai diogelu’r dioddefwr yw prif ffocws y canllawiau ar rannu gwybodaeth, a diben y broses o rannu gwybodaeth yw gwella trefniadau diogelu, fel galluogi dioddefwyr i gael mynediad at lety diogel neu orchmynion amddiffyniad llys, neu gadarnhau bod cam-drin domestig yn digwydd at ddibenion achosion cyfreithiol, neu sicrhau mynediad at wasanaethau arbenigol eraill, ac ati.

 

- Yn ystod yr ymchwiliad, cafwyd galwadau am fur gwarchod, a fyddai’n golygu gwahanu gweithgareddau gorfodi mewnfudo a’r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

 

- Parthed y sefyllfa o ran datganoli, mae'r Swyddfa Gartref yn gweithredu o dan Lywodraeth y DU, ond mae iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg wedi’u datganoli. Felly, gall fod mur gwarchod rhwng y gwasanaethau a’r sectorau datganoledig.

 

- Yn ogystal, awgrymodd Elizabeth y byddai mur gwarchod nid yn unig yn arwain at y canlyniad cadarnhaol o ganiatáu i ddioddefwyr adrodd yn ddiogel, ond byddai hefyd yn cymryd y baich oddi ar wasanaethau statudol, gan gynnwys yr heddlu, o ran y gofyniad i gymryd camau sy’n gysylltiedig â mewnfudo.

 

- Gall mewnfudwyr sydd â statws mewnfudo ansicr fynd i orsafoedd heddlu ac adrodd am achosion o drosedd, yn y sicrwydd na fydd eu statws mewnfudo yn cael blaenoriaeth ac na fydd y manylion hynny’n cael eu rhannu â swyddogion gorfodi mewnfudo.

 

- Dywedodd Ms Murphy fod y Pwyllgor wedi gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am yr amgylchiadau pan fyddai gwasanaethau statudol yn rhannu manylion am statws mewnfudo person â’r Swyddfa Gartref. Yr ateb oedd: “Nid ydym yn rhannu data gyda’r Swyddfa Gartref.” Ac felly, mae'r rheswm dros wneud hynny yn un eithafol iawn. Fel arfer, nid oes unrhyw ddata yn cael eu rhannu.

 

- Codwyd pryderon dro ar ôl tro ynghylch rhannu data a’r effaith y gall hynny ei chael ar ymddiriedaeth ac iechyd, gan gynnwys gwasanaethau sydd i fod i helpu pobl.

 

- Dywedodd Ms Murphy fod y Pwyllgor wedi edrych ar ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i ymchwilio i’r broses o rannu data, ac wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn arwain gwaith partneriaeth ar gynhyrchu canllawiau sy'n egluro'r sefyllfa gyfreithiol.

 

- O ran achosion o niwed sy’n gysylltiedig â data, nid yw bob amser yn hawdd eu profi. Dyna pam ei bod yn bwysig clywed tystiolaeth, yn ôl Ms Murphy, gan gyflwyno Ms Ngotho-Mbugua.

 

Profiadau BAWSO gyda menywod mudol sydd wedi goroesi cam-drin domestig

 

- Eglurodd Ms Ngotho-Mbugua fod BAWSO yn cefnogi menywod mudol sydd wedi dioddef trais domestig.

 

- Yn aml iawn, mae'n bosibl y bydd data menywod yn cael eu rhannu rhwng y Swyddfa Gartref a chyrff gorfodi'r gyfraith, ac mae diffyg ymddiriedaeth yn gyffredinol yn sgil hynny.

 

- Mae BAWSO yn gweld achosion lle mae menywod yn adrodd am ddigwyddiad, ond yna’n cael llythyr deiseb gan y Swyddfa Gartref.  Yr honiad yw y dylai'r llythyr fod wedi cael ei anfon eisoes, ond nid oedd modd gwneud hynny gan nad oedd y cyfeiriad ar gael.

 

- Y rhan fwyaf o'r amser, mae’r menywod hyn yn bobl sydd wedi dioddef cam-drin a cham-fanteisio. Maent yn byw mewn ofn, a hynny heb ddogfennaeth, ac nid oes modd iddynt ddatrys eu sefyllfa. Yn sgil hynny, maent yn osgoi gwasanaethau, gan gynnwys anfon eu plant i'r ysgol.

 

- Soniodd Ms Ngotho-Mbugua am enghraifft lle'r oedd hen fenyw Affricanaidd wedi cael ei cham-drin am oddeutu 10 mlynedd. Gofynnwyd iddi pam ei bod wedi byw o dan y fath amgylchiadau am gyhyd, a dywedodd ei bod yn ofni y byddai'n cael ei halltudio pe bai'n dweud unrhyw beth. Dim ond ar hap y daeth adeiladwyr o hyd iddi, gan nodi nad oedd gwres nac unrhyw beth yn y tŷ. Dywedodd y fenyw y byddai’n well ganddi ddioddef sefyllfa o gam-fanteisio mewn tŷ lle’r oedd camddefnydd hirdymor o gyffuriau yn digwydd, na wynebu’r perygl o fod yn destun adroddiad i’r Swyddfa Gartref.

 

- Canfu BAWSO y byddai'r fenyw yn cael ei chofnodi fel dioddefwr masnachu mewn pobl. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, dim ond o dan y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer masnachu mewn pobl (y mecanwaith swyddogol ar gyfer cyfeirio achosion o gaethwasiaeth fodern) y mae’r gyfraith yn amddiffyn pobl.

 

- Os nad yw'r achos dan sylw yn achos ar gyfer y mecanwaith hwnnw, nid yw dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu hamddiffyn, ac mae'r diffyg hwn yn ataliad sy’n tanseilio'r frwydr yn erbyn trosedd.

 

- Yn 2022, cynhaliodd Prifysgol Birmingham astudiaeth gyda BAWSO. Fodd bynnag, ychydig iawn o bobl oedd am gymryd rhan yn y cyfweliadau cysylltiedig, gan eu bod yn ofni y byddai'r wybodaeth yn y pen draw yn cael ei hanfon at y Swyddfa Gartref. Felly, mae’r sefyllfa hon yn gallu rhwystro pobl rhag gwneud gwaith ymchwil a dysgu o'r sefyllfa hon, ac yn rhwystr hefyd o ran sicrhau cyfiawnder ac atebolrwydd.

 

- Yn aml, mae cyflawnwyr yn rheoli eu dioddefwyr drwy eu hatgoffa y byddant yn cael eu halltudio os byddant yn adrodd am eu hachosion i'r heddlu. Roedd hyn yn wir am y fenyw 70 oed. Dywedwyd wrthi dro ar ôl tro nad oedd hi'n perthyn i'r wlad hon. Yn ogystal, dywedodd y cyflawnwr, pe bai un ohonynt yn cael ei ddal y byddai’r ddau ohonynt yn cael eu dal. Pan rydych mewn sefyllfa fregus, rydych yn dueddol o gredu'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthych.

 

- Mae BAWSO’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad ynghylch cael mur gwarchod cyflawn rhwng yr heddlu a'r Swyddfa Gartref. Bydd yn tawelu meddwl unrhyw ddioddefwyr neu bobl sydd wedi bod yn destun cam-fanteisio sydd â statws mewnfudo ansicr.

 

Meithrin ymddiriedaeth o ran rhannu gwybodaeth

 

- Siaradodd Joanne Hopkins am ganfyddiadau dau adroddiad a luniwyd eleni a'r tensiynau sy'n bodoli yn yr argymhellion.

 

- Mae’r ddau adroddiad yn datgan yn glir fod angen data gwell a phrosesau gwell ar gyfer rhannu gwybodaeth. Mae sicrhau data gwell yn ddibynnol ar ymgysylltu â phobl, ond os yw pobl yn rhy ofnus i ymgysylltu, gall hynny arwain at gylch o anawsterau.

- Darllenodd Ms Hopkins y gerdd 'The Angry Survivor' er mwyn dangos effaith y broses o ofyn cwestiynau di-ri i oroeswyr.

 

- Mae'r tensiwn yn ymwneud â chasglu gwybodaeth am y niwed y mae pobl yn ei ddioddef mewn ffordd sy'n seiliedig ar drawma. Pam ddylai goroeswyr rannu eu hanesion ac ail-fyw eu trawma pan nad oes unrhyw beth yn newid ar ôl hynny?

 

- Mae angen i gymunedau weithio gyda sefydliadau er mwyn meithrin ymddiriedaeth a bod yn dryloyw ynghylch y ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth.

 

- Argymhelliad arall oedd bod angen i adrannau rannu gwybodaeth yn well. Fodd bynnag, y cwestiwn yw sut yr ydym yn rheoli'r hyn y mae angen i ni ei wybod, yn erbyn yr hyn y gellir ei ddefnyddio yn erbyn pobl. Nid oedd Ms Hopkins o’r farn bod yr ymdrechion hyn wedi cyrraedd y nod eto o ran deall sut y gellir mabwysiadu ffordd foesegol o wneud hynny.

 

- Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar y mater hwn, ac mae fframwaith ar gyfer gwaith ymchwil moesegol sy’n canolbwyntio’n benodol ar oroeswyr cam-drin domestig.

 

- Un peth a wnaethpwyd yn ystod COVID, yn sgil pryderon am bobl yn ceisio triniaeth am faterion iechyd neu mewn perthynas â throseddau casineb neu droseddau eraill, oedd anfon taflen i bob eiddo yng Nghymru yn nodi rhifau cyswllt perthnasol ar gyfer sicrhau cymorth. Wrth wneud hynny, gwnaed yn glir na fyddai unrhyw wybodaeth yn cael ei throsglwyddo.

 

Ymateb y Llywodraeth

 

- Diolchodd Jane Hutt AS i'r siaradwyr, Ms Murphy a'r tîm cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, a nododd y byddai’r materion dan sylw yn cael eu trafod yr wythnos nesaf.

 

- Cafodd ymateb y Llywodraeth ei gyhoeddi sawl diwrnod ynghynt.

 

- Mae'n bwysig bod y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Digidol a Democratiaeth yn cydnabod y materion hyn yn y sector, ac mae angen i’r grŵp helpu’r broses o lywio gweithgarwch unigolion yn y Llywodraeth.

 

- Mae’n allweddol i waith Ms Hutt fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 

- Dylid ei gwneud yn gwbl glir bod dioddefwyr sy’n ffoaduriaid, yn ymfudwyr, neu’n geiswyr lloches sy'n ffoi rhag trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol, yn wynebu heriau a chaledi ychwanegol, fel yr amlinellwyd.

 

- Yn y DU, nid oes gan lawer o fenywod mudol unrhyw hawl i arian cyhoeddus, sy’n golygu nad oes ganddynt fynediad at fudd-daliadau lles. Codwyd y mater hwn gan Ms Hutt wrth iddi siarad â Nicole Jacobs, Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, wythnos ynghynt. Pwysodd Ms Hutt am ganlyniad y cynllun peilot y mae BAWSO wedi bod yn rhan ohono o ran datblygu ymateb polisi ynghylch y diffyg hawl i arian cyhoeddus.

 

- Ym mis Mai, roedd ei hadran wedi cyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd, sy’n edrych ar sut rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, casineb at fenywod, a thrais gan ddynion, sy’n achosi trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod, a hefyd yn deillio o’r pethau hyn.

 

- Mae’r strategaeth yn amlinellu ymrwymiad parhaus i weithio gyda phob lefel o Lywodraeth yn y DU, ynghyd â phartneriaid lleol a phartneriaid eraill, boed a ydynt wedi’u datganoli neu beidio.  Dyna sut yr ydym yn ymyrryd.

 

- Yn dilyn ymgynghoriad, mae'r strategaeth ddiwygiedig yn ceisio nodi ffyrdd o ddod o hyd i atebion priodol er mwyn diwallu anghenion goroeswyr nad oes ganddynt unrhyw hawl i arian cyhoeddus.

 

- Mae’n cyd-fynd ag ymrwymiadau i wneud Cymru’n genedl noddfa, ac mae’r cynllun cenedl noddfa yn cynnwys ymrwymiadau clir ar draws y Llywodraeth i leihau’r anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr lloches, gan gynnwys goroeswyr trais yn erbyn menywod a merched. Rhaid iddynt fod yn hyderus y bydd pobl yn eu credu ac y bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd.

 

- Bydd achosion lle bydd angen rhannu eu data er mwyn cael gwell cymorth a threfniadau diogelu.

 

- Roedd yr ymateb i'r argymhellion yn sôn am sut y gellir rhoi mesurau ychwanegol ar waith er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i ymfudwyr sydd wedi dioddef trais ar sail rhywedd.

 

- Pan gaiff data eu rhannu, mae angen canlyniadau gwell. Hefyd, rhaid i fenywod ddeall beth sy'n digwydd gyda'u data.

 

- Nid yw gwasanaethau plismona a mewnfudo yn wasanaethau datganoledig yng Nghymru, sy’n gosod cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru.

 

- Rhai misoedd yn ôl, cafwyd pleidlais yn y Senedd yn galw am ddatganoli gwasanaethau, ac mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud i ddatganoli plismona.

 

Sesiwn holi ac ateb

- Soniodd Sin Ye Cheung am adroddiad a gyhoeddwyd yn 2021 o dan y pennawd ‘Uncharted Territory’, gan nodi bod adroddiad wedi’i gyhoeddi cyn hynny yn 2013, ac mai’r cwestiwn sydd angen ei ofyn yw: beth sydd wedi newid yn y cyfamser?

 

- Mae’r adroddiad newydd yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn cynnwys tystiolaeth ddefnyddiol ac argymhellion cadarn, meddai Ms Hutt.

O ran yr hyn sydd wedi newid, dywedodd Ms Hopkins fod sgwrs yn cael ei chynnal am y tro cyntaf sy’n cynnwys menywod mudol ar draws ystod ehangach o feysydd, gan gynnwys diffyg mynediad at arian cyhoeddus. Felly, mae ochr gadarnhaol i’r sefyllfa hon o ran cynhwysiant, ond rhaid cofio’r pwynt bod hyn yn aml yn golygu mwy o geisiadau data.

 

- Gwnaeth Ms Murphy ailadrodd y ffaith bod ymateb y Llywodraeth yn ymwneud ag argymhellion 10-13, a bod argymhelliad 13 yn fater o 'ie, ond na', a bod amheuon ynghylch yr ochr dechnoleg ohono. Felly, byddai'n ddefnyddiol i unrhyw un o'r gwyddorau data fwydo i mewn i’r broses.

 

- Drwy'r ymchwiliad, dywedodd Ms Murphy mai'r pwynt yr oedd hi’n ei wneud oedd y byddai’n fuddiol i wasanaethau yn ogystal â dioddefwyr, gan ei fod yn cynorthwyo’r broses o rannu data er mwyn gwella gwasanaethau.

 

- Byddai’n ddefnyddiol dechrau o fan eglur o ran yr hyn y gellid ei ddefnyddio, o bosibl, a sut y gellid ei ddefnyddio.

 

- Cafwyd cwestiwn gan Gwendolyn Sterk o Gymorth i Ferched Caerdydd, sy’n gweithio yn y gwasanaethau rheng flaen. Roedd y cwestiwn yn ymwneud â’r ffaith bod pŵer i wthio yn ôl pan fo galw am ddata gan arianwyr statudol. Dylai’r broses o rannu data fod yn broses o rymuso hefyd, gan rymuso goroeswyr trais domestig i deimlo’n rhydd rhag y bygythiad o drais.

 

- Mae'r awdurdod lleol wedi gofyn i’r sefydliad eto am wybodaeth am bobl sy'n defnyddio ei lochesi, ond nid yw wedi'i nodi'n glir pam fod angen y data hwnnw arno a sut y bydd o fudd i fenywod, mewn perthynas â'r Ddeddf tai.

 

- Mae'n bosibl y bydd ymdrech i edrych ar yr holl ddeddfwriaeth, a goblygiadau’r rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrth y trefniadau cyllido, yn enwedig o ran rhannu data a thai.

 

- Dywedodd David Teague, cynrychiolydd y Comisiwn Gwybodaeth, fod y sefydliad hwnnw yn aml yn clywed bod rhannu data yn rhwystr. Er nad dyna farn y sefydliad, mae’n ddefnyddiol clywed enghreifftiau penodol. Mae yna deimladau gwahanol o ran data plant. Mae’r sefydliad yn awyddus i ymgysylltu â grwpiau sy'n teimlo bod eu data'n cael eu gwthio i’r cyrion rhywfaint.

 

- Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru yn unigryw i Gymru, ac mae’n darparu fframwaith sy’n egluro’r drefn o ran rhannu data, sef yr hyn y gellir ei rannu, ac ymhle, pam a sut. Mae heddluoedd Cymru wedi ymrwymo i'r fframwaith hwnnw.

 

- Soniodd Ms Murphy ei bod wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar archwiliadau annibynnol o reolwyr data a phroseswyr data. Cafodd gyfarfod â sefydliad Iechyd a Gofal Digidol Cymru, sy’n gwneud gwaith archwilio mewnol, sy’n debyg i farcio eich gwaith cartref eich hun. Gofynnodd i Lywodraeth Cymru pwy yw rheolydd data’r sefydliad, ac a fyddai modd iddi gael rhestr o'i broseswyr data. Nid oedd modd i’r Llywodraeth ddarparu rhestr o’r fath, ond gofynnodd Ms Murphy am safbwynt cyffredinol y cynrychiolydd ar y mater hwnnw.

 

- Dywedodd y cynrychiolydd fod myth poblogaidd ynghlwm wrth faes prosesu data, sef ei fod yn ymwneud â chaniatâd yn unig. Fodd bynnag, mae chwe sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

 

- Mae archwilio mewnol yn helpu pan fo angen cynnal ymchwiliad. Canfuwyd, er enghraifft, fod yr adran addysg yn Llywodraeth y DU yn caniatáu mynediad i'r gronfa ddata dysgwyr. Ni ddylai hynny fod wedi digwydd, ac yn wir, ni fyddai wedi digwydd pe bai’r adran wedi gwneud ei gwaith.

 

- Canfuwyd y sefyllfa hon yn sgil cwyn, ac mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth bwerau archwilio hefyd.

 

- Dywedodd Ms Murphy fod hyn yn dibynnu ar berson yn gwneud cwyn, gan nodi nad yw'r hyn sydd y tu ôl i'r llenni yn amlwg i lawer ohonom.

 

- Gall cwyn unigol fod yn ddigon weithiau i sbarduno archwiliad o sefydliad cyfan, a hynny er mwyn ceisio datgelu unrhyw fath o fethiant systemig.

 

- Gofynnodd Ms Murphy a oedd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth bŵer i archwilio'r Swyddfa Gartref. Nid oedd y sefyllfa hon yn glir. Serch hynny, ar sail rhai o'r dadleuon a glywyd, dywedodd Ms Murphy fod yna arwyddion o fethiant systemig.

 

- Cododd rhywun arall y ffaith bod modd adrodd am sefydliadau/asiantaethau drwy'r pwyllgor archwilio cyhoeddus.

 

- Dywedodd Ms Murphy fod y pwynt am archwilio yn bwysig, gan ei fod yn hwyluso tryloywder ac eglurder.

 

- Y prif bwynt yw bod hon yn sefyllfa erchyll i’r menywod sy’n dioddef yr effeithiau gwaethaf, ac i’r plant sydd yn aml yn cael eu gadael ar ôl os yw’r menywod yn cael eu halltudio.

 

- Mae angen i bobl feddwl am yr adegau pan fyddant yn rhannu data, a beth fydd yn cael ei wneud â’r data hynny. Hefyd, rhaid cofio bod pobl sy’n gysylltiedig â’r data hynny a allai brofi niwed.

 

Lincs ar gyfer adnoddau darllen pellach ac adnoddau eraill:

 

      Mudo gorfodol a thrais rhywiol a thrais ar sail rhywedd:

Canfyddiadau prosiect SEREDA yng Nghymru https://www.birmingham.ac.uk/documents/college-social-sciences/social-policy/iris/2022/sereda-wales-report-welsh.pdf

      Trais ar sail rhywedd

      Anghenion menywod mudol https://senedd.cymru/media/cgwiwih0/cr-ld15422-w.pdf

      Adolygiad: ‘Uncharted Territory’ (Saesneg yn unig) https://phwwhocc.co.uk/resources/uncharted-territory-review/ – y prif argymhellion yw argymhellion 10-13.

      Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr ymchwiliad https://www.llyw.cymru/adroddiad-ar-drais-ar-sail-rhywedd-ac-anghenion-menywod-mudol-ymateb-y-llywodraeth-html

      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Anghenion Menywod Mudol https://www.senedd.tv/Meeting/Archive/eb28164c-accb-4e0e-be78-6bac2e4adcf6?autostart=True

      Ar gyfer fideo ynglŷn â diogelu plant a rhannu gwybodaeth: https://www.waspi.llyw.cymru/

      Iechyd a Gofal Digidol Cymru – Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd: https://igdc.gig.cymru/amdanom-ni/bwrdd-pwyllgor-a-bwrdd-cynghori/pwyllgor-archwilio-a-risg/cyfarfod-18-hydref-2022/pwyllgor-archwilio-a-sicrwydd-18-hydref-2022-cyhoeddus/

      PICUM: sefydlu mur gwarchod a chanllawiau Ewropeaidd cysylltiedig (Saesneg yn unig) https://picum.org/firewall-tool-safeguarding-fundamental-rights-undocumented-migrants/#